Exodus 16:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i'n herbyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?"