Exodus 18:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai DUW i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o'r ARGLWYDD Israel allan o'r Aifft;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd Jethro, offeiriad yn Midian a thad-yng-nghyfraith Moses, am y cyfan a wnaeth Duw i Moses ac i'w bobl Israel, ac fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu harwain allan o'r Aifft.