Exodus 18:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, "Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?"