Exodus 18:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a'u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a'i penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewisodd wu375?r galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.