Exodus 18:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharo ac i'r Eifftiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r ARGLWYDD hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i'r Pharo a pobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi eu hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi eu helpu nhw drwy'r cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy.