Exodus 19:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb 'i gyffwrdd 'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.' Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd."