Exodus 19:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fyny at yr ARGLWYDD; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a tyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro."