Exodus 19:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, os gwnewch chi wrando arna i a cadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd piau'r cwbl,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.