Exodus 19:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.” Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth."