Exodus 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?" Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys.