Exodus 2:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnodd yntau iddynt, "Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar l? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta."