Exodus 2:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at DDUW, oblegid y caethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth blynyddoedd heibio, a dyma frenin yr Aifft yn marw. Roedd pobl Israel yn griddfan am eu bod yn dioddef fel caethweision. Roedden nhw'n gweiddi'n daer am help, a dyma'u cri yn cyrraedd Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ystod yr amser maith hwn, bu farw brenin yr Aifft. Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw.