Exodus 2:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu'r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Agorodd y fasged, a gweld y babi bach — bachgen, ac roedd yn crïo. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, "Un o blant yr Hebreaid yw hwn."