Exodus 20:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma — ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth;