Exodus 20:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a'th offrymau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni — yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw.