Exodus 20:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasu,