Exodus 21:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os yr ych oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bu'r ych yn cornio yn y gorffennol, a'r perchennog wedi ei rybuddio ond eto heb gadw'r ych dan reolaeth, a hwnnw'n lladd gu373?r neu wraig, llabyddier yr ych a rhoi ei berchennog i farwolaeth.