Exodus 21:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i'w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw'r ych yn cornio caethwas neu gaethferch, y mae ei berchennog i dalu i'r meistr ddeg sicl ar hugain o arian, ac y mae'r ych i'w labyddio.