Exodus 21:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a'i gwasanaetha ef byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna y mae ei feistr i ddod ag ef at Dduw, a'i ddwyn at y drws neu'r cilbost, a thyllu trwy ei glust mynawyd; wedyn, bydd y caethwas yn ei wasanaethu am byth.