Exodus 22:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid mynnu llog ganddo.