Exodus 22:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.