Exodus 23:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwylltion yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.