Exodus 24:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwelsant DDUW Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi ei wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.