Exodus 24:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gogoniant yr ARGLWYDD a arhodd ar fynydd Sinai, a'r cwmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi ei orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.