Exodus 24:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr ARGLWYDD; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Ac yn gynnar y bore wedyn dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas — un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna ysgrifennodd Moses holl eiriau'r ARGLWYDD. Cododd yn gynnar yn y bore, ac wrth droed y mynydd adeiladodd allor a deuddeg colofn yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel.