Exodus 25:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno byddaf yn cyfarfod thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.