Exodus 26:37 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwna i'r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.