Exodus 27:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ym mhabell y cyfarfod, o'r tu allan i'r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a'i feibion hwnnw, o'r hwyr hyd y bore, gerbron yr ARGLWYDD: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ym mhabell presenoldeb Duw, tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.