Exodus 28:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a'r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr ARGLWYDD: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr ARGLWYDD, yn wastadol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rho'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg barn, iddynt fod ar galon Aaron pan fydd yn mynd gerbron yr ARGLWYDD; felly, bydd Aaron yn dwyn barnedigaeth pobl Israel ar ei galon gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.