Exodus 28:38 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi eu neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ar dalcen Aaron, ac yntau'n cymryd arno'i hun euogrwydd pobl Israel wrth iddynt gysegru eu rhoddion sanctaidd; bydd ar ei dalcen bob amser, er mwyn iddynt gael ffafr gerbron yr ARGLWYDD.