Exodus 29:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi eu cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi eu socian mewn olew — y cwbl heb furum ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cymer hefyd beilliaid gwenith heb furum, a gwna fara, cacennau wedi eu cymysgu ag olew, a theisennau ag olew wedi ei daenu arnynt.