Exodus 29:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna lladd yr hwrdd, a chymer o'i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella'r gwaed arall ar yr allor o amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna lladd di'r hwrdd a chymer beth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron a'i feibion, ac ar fodiau de eu dwylo a'u traed, a thaenella weddill y gwaed o amgylch yr allor.