Exodus 29:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i gwisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi eu cysegru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymer beth o'r gwaed a fydd ar yr allor, a pheth o olew'r ennaint, a'u taenellu ar Aaron a'i feibion, ac ar eu dillad; byddant hwy a'u dillad yn gysegredig.