Exodus 29:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymer hwynt o'u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD: aberth tanllyd i'r ARGLWYDD yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e — mae'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymer hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor gyda'r poethoffrwm yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD; offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD ydyw.