Exodus 29:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.