Exodus 3:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn."