Exodus 3:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Moses yn dweud, “Ond os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Moses wrth Dduw, "Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, 'Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch', beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?"