Exodus 3:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi — Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,