Exodus 3:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a ml, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.