Exodus 30:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i'r ARGLWYDD, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.