Exodus 30:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal Pabell Presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd."