Exodus 30:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.