Exodus 31:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly rhaid i chi gadw'r Saboth, a'i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth.