Exodus 31:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i'r ARGLWYDD: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth — diwrnod i chi orffwys. Mae'r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth.