Exodus 32:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a'r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch had chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cofia beth wnest ti ei addo i dy weision Abraham, Isaac a Jacob. Dwedaist wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd i roi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr, a dw i'n mynd i roi'r tir yma dw i wedi bod yn sôn amdano i dy ddisgynyddion di. Byddan nhw'n ei etifeddu am byth.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, 'Amlhaf eich disgynyddion fel sr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.'"