Exodus 32:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli'r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn ateb, “Nid cân dathlu buddugoliaeth, glywa i, na chân wylo'r rhai sydd wedi eu trechu, ond canu gwyllt rhai'n cynnal parti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai yntau, "Nid su373?n gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond su373?n canu."