Exodus 32:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, wedi dyfod ohono yn agos i'r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylo ac a'u torrodd hwynt islaw y mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd y gwersyll a gweld yr eilun o darw ifanc, a'r bobl yn dawnsio'n wyllt, dyma Moses yn colli ei dymer yn lân. Taflodd y llechi oedd yn ei ddwylo ar lawr, a dyma nhw'n malu'n deilchion wrth droed y mynydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.