Exodus 32:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud wrtho i, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant wrthyf, 'Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth ni i fyny o wlad yr Aifft'.