Exodus 32:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Moses yn gweld fod y bobl allan o reolaeth yn llwyr — roedd Aaron wedi gadael iddyn nhw redeg yn wyllt, a gallai'r stori fynd ar led ymhlith eu gelynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.