Exodus 32:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r ARGLWYDD? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn sefyll wrth y fynedfa i'r gwersyll a galw ar y bobl, “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” A dyma'r Lefiaid i gyd yn mynd ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, "Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi." Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,